(The Oxford Companion to Ships and the Sea.)
Baggyrinkle: baggywrinkle: bag-o'-wrinkle: "A home made substance to prevent chafe on sails from lifts, stays and crosstrees during long periods of sail."

Mae Baggyrinkle yn canu mewn
harmoni teir-ran gyda chonsertina'n gyfeiliant i rai o'u caneuon ac mae darnau
cerddorol yn ychwanegu at y rhaglen weithiau.
Ar hyn o bryd mae'r grŵp yn
cynnwys wyth aelod, wyth yn perfformio ac un ferch i gadw llygad ar y bois!
Daw'r aelodau o bob cefndir a chariad at ganu gwerin, yn enwedig deunydd morol,
sy'n eu huno. Mae'r mwyafrif o repertoire y Baggies yn draddodiadol ond
mae'n cynnwys rhai caneuon cyfoes-llawer ohonynt yn cael eu hysgrifennu gan ddau
o'r aelodau- Dave Robinson ac Matthew Ross
McKay. Maent hefyd wedi dechrau canu ambell i gân Cymraeg.
Ffurfiwyd Baggyrinkle ym mis Ebrill
1994, a'r jobyn cyntaf oedd cynnal Gwŷl Canu Morol Abertawe. Ers
hynny mae'r grŵp wedi cynrychioli eu dinas yn yr Wyl
"Cockles&Celts" (Cocos a Cheltiaid). Gefeilldref
Abertawe yw Mannheim a chafodd y criw eu gwahodd i'r ddinas Almeinig er mwyn
diddanu yn y Regata Rhwyfo Rhyngwladol enwog ar yr afon Rhine.
Y Baggies yw'r grŵp preswyl yn
sesiwn ganu morol poblogaidd Gwŷl Gerddoriaeth Rhyngwladol Pontardawe.
Ers eu ffurfio, maent wedi perfformio yn rhan fwyaf o wyliau canu morol pwysicaf
yn y Deyrnas Unedig, Llydaw, yr Iseldiroedd ac yn ddiweddar, America.
Mae'r repertoire yn naturiol yn
cynnwys caneuon morol ond mae gan y bois gasgliad o ganeuon yfed, sy'n
ddefnyddiol gan eu bod yn anl yn cael gwahoddiad i ganu mewn Gwyliau Cwrw.
Mae ganddynt hefyd gyfoeth o ddeunydd yn ymwneud â hanes y pyllau glo.
Gwahoddwyd y grŵp i berfformio mewn digwyddiad arbennig yn coffàu, mewn
gair a chân, ddiwedd y diwydiant mwyngloddio yng Nghymru ac yn ngweddill y
Deyrnas Unedig.
Hyd yn hyn, trwy gyfrwng y Saesneg
yn unig y mae gweddill y safle ar gael
ond cymerwch gip olwg ta beth!